Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Canllawiau i staff

Canllawiau i staff

Isod mae rhai canllawiau i staff sy’n dymuno defnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. 

Ymholiadau teleffon dwyieithog

Mae'r Uned Gymraeg cynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith fel y gallwn gynghori ac ateb cwestiynau am y Safonau.

Un o ofynion y Safonau yw bod staff Met Caerdydd yn ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog.

 

Atebwch y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog fel:

Bore da  (Bor-reh-dah) / Good morning

Prynhawn da (Prin-houn-dah) / Good afternoon

 

Os ydych chi'n teimlo'n hyderus dyma rai ymadroddion defnyddiol:

Prifygsol Metropolitan Caerdydd / Cardiff Metropolitan University

[Eich enw] sy'n siarad / [Your name] speaking

Pwy sy'n galw? / Who's calling?

Hwyl / Goodbye

Diolch / Thank you

 

Atebwch y ffôn bob amser gyda chyfarchiad dwyieithog i ddangos bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn hapus i dderbyn galwadau yn y Gymraeg.

Pan fyddwch chi'n derbyn galwad yn Gymraeg:

  • Deliwch â'r alwad yn Gymraeg os gallwch wneud hynny.
  • Os na allwch, eglurwch nad ydych chi'n gallu siarad Cymraeg a throsglwyddo'r alwad i gydweithiwr sy'n siarad Cymraeg a all helpu.

Mae'r Uned Gymraeg wedi creu pecyn hyfforddi a chanllaw cam wrth gam ar gyfer staff Met Caerdydd ar sut i ddelio ag ymholiadau ffôn dwyieithog.






Creu cyfryngau cymdeithasol dwyieithog


Gall defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol gyfrannu at ddatblygu perthynas â chwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn sicrhau bod ganddynt ymddiriedaeth yn y gwasanaeth, y cynnyrch neu’r profiad a gynigir. I gael fwy o gyngor, cysylltwch â'r Uned Gymraeg ac fe fyddwn yn hapus iawn i'ch helpu.


unedgymraeg@cardiffmet.ac.uk